Croeso i’n gwefan, dyma ni’n rhannu gyda chi ein taith i greu cymunedau queer, symbiotig yng Nghymru a thu hwnt.

Ar hyn o bryd mae Malwen yn grŵp bach sy’n sefydlu sylfaen ar gyfer prosiectau tir, gan feithrin cartref queer ecolegol ac adfywiol i bobl ac eraill, tyfu bwyd a chynefin, creu gwytnwch trwy fioamrywiaeth ac amrywiaeth cymdeithasol gyda phwyslais ar greu cartrefi i bobl LGBTQ+ yng Nghymru.

Mae’r falwen yn arwyddlun rhyfeddol ond pwerus a pherthnasol ar gyfer ein prosiect cwiar-eco. Maent yn arddangos ymddygiad a ffisioleg y gellir eu hystyried yn gwiar, megis bod yn anrhywiol neu’n ddeuryw, ac maent yn wydn yn wyneb amodau gelyniaethus. Bydd malwod yn aml yn cael eu camddeall a’u pardduo gan arddwyr, yn debyg, ar lawer ystyr, i’r hyn sydd wedi digwydd i bobl gwiar yn ein cymdeithas ddynol. Mae malwod yn awgrymu inni gwestiynu meddwl modern ac yn datgelu’r bydysawd cwiar yr ydym yn byw ynddo, sy’n aml yn cael ei ddisytyru a heb gael ei werthfawrogi’n ddigonol.

Shwmae, falch eich bod wedi dod o hyd inni!